Llywodraeth Cymru yw llywodraeth
ddatganoledig Cymru sy’n gyfrifol am ddatblygu
a chyflwyno amrywiaeth eang o bolisïau a
rhaglenni mewn amryw feysydd o addysg i
iechyd ac i lywodraeth leol.
Craidd hyn oll yw ein hymrwymiad i fod yn gyflogwr y
bydd pobl yn dewis gweithio iddo a chreu gweithle sy’n
fwy cynhwysol ac amrywiol – gweithle sy’n adlewyrchu’n
well y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu, sy’n rhoi
gwerth ar ein pobl ac sy’n hybu cyfle cyfartal. Rydym
wedi ymrwymo yn benodol hefyd i hybu cydraddoldeb
i bobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol ac i
weithio gyda’n staff i wella’r gweithle. Mae Rainbow
(ein rhwydwaith staff Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a
Thrawsrywiol), er enghraifft, yn cynnig arweiniad a
chymorth i’w aelodau yn ogystal â chyngor ar ddatblygu
polisi sy’n berthnasol i’r cyflogwr.
Pan fyddwn yn recriwtio byddwn yn chwilio am
unigolion o bob cefndir. Rydym hefyd yn deall gwerth
gweithlu amrywiol ei natur ac yn croesawu’n arbennig
geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Rydym yn chwilio am bobl sy’n flaengar, yn gyfrifol ac
yn ymrwymedig i wneud gwahaniaeth positif. Rydym
hefyd yn cynnig cyfleoedd yn fewnol ar gyfer prentisiaid
a lleoliadau gwaith a chaiff y rhain eu rhestru ar ein
gwefan fel y bo’n briodol adeg ein prosesau recriwtio.
Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth amdanom, ewch i’n gwefan
Pan fydd swyddi gwag ar gael, bydd yr wybodaeth yn
cael ei rhoi ar ein gwefan:
We are the devolved government for Wales and
are responsible for developing and delivering a
large variety of policies and programmes across
a range of areas from education, to health to
local government.
At the heart of this lies our commitment to being an
employer of choice and achieving a more inclusive and
diverse workplace – a workplace which better reflects
the communities we serve, which values our people and
which promotes equality of opportunity. In particular
we remain committed to promoting LGBT equality and
to working with our staff to improve the workplace.
For example, Rainbow (our LGBT staff network) offers
guidance and help for its members as well as advising on
employer related policy development.
When we recruit we are looking for individuals from
all walks of life, we understand the value of a diverse
workforce and particularly welcome applications from
under-represented groups.We are attracted to individuals
who are innovative, responsible, and committed to making
a positive difference.We also offer in-house apprentice
and placement opportunities which are listed on our
website as appropriate during recruitment cycles.
Contact Details
For further information about us, please visit our website
at
Vacancies when they arise will be posted on the site at
Llywodraeth Cymru
Welsh Government
WG18823
© Hawlfraint y Goron/Crown copyright 2013
1...,35,36,37,38,39,40,41,42,43,44 46,47,48,49,50,51,52,53,54,55,...72